Y traeth yn Tiwnisia lle cafodd 30 o Brydeinwyr eu saethu'n farw
Fe fydd cwestau i farwolaethau 30 o Brydeinwyr mewn ymosodiad brawychol ar draeth yn Tiwnisia yn cael eu gohirio tan y flwyddyn nesaf ar ôl i farnwr gyfaddef bod “llawer iawn” o waith eto i’w wneud.

Roedd disgwyl i’r cwestau ddechrau ym mis Tachwedd eleni ond mae’r Barnwr Nicholas Loraine-Smith, sydd wedi cael ei benodi’n grwner, wedi ymddiheuro wrth y teuluoedd gan ddweud bod y dyddiad wedi cael ei ohirio tan fis Ionawr.

“Rwy’n gobeithio y bydd pawb yn deall bod yna swm aruthrol o waith i’w wneud,” meddai mewn gwrandawiad yn y Llysoedd Cyfiawnder yn Llundain.

Asesu diogelwch


Trudy Jones o'r Coed Duon
Cafodd 38 o bobl – gan gynnwys Trudy Jones, 51, o’r Coed Duon – eu saethu’n farw gan ddyn arfog, Seifeddine Rezgui, ar draeth yn Sousse ym mis Mehefin y llynedd. Roedd y grŵp eithafol, y Wladwriaeth Islamaidd (IS) wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad.

Clywodd y llys bod yr Heddlu Metropolitan wedi derbyn 750,000 o ddogfennau o 40 o gyfrifiaduron a ffonau symudol a gafodd eu cipio gan ymchwilwyr yn Tiwnisia, tra bod swyddogion yn paratoi adroddiadau ar bob un o’r rhai gafodd eu lladd.

Mae’r barnwr hefyd wedi dweud y dylai’r ymchwiliad asesu diogelwch ar y traeth ac yng Ngwesty RIU Imperial Marhaba cyn ac ar ôl yr ymosodiad ar Amgueddfa Genedlaethol Bardo yn Tunis ym mis Mawrth 2015, pan gafodd 22 o bobl eu lladd, gan gynnwys un Prydeiniwr.

‘Rhybuddion’

Mae’r cwmni cyfreithiol Irwin Mitchell, sy’n cynrychioli teuluoedd 16 o’r rhai gafodd eu lladd, yn honni bod Tui, sy’n berchen Thomson Holidays, wedi rhoi pobl mewn perygl drwy beidio â gwneud rhybuddion am deithio i’r wlad yn glir i’r teithwyr yn eu cylchgronau a ffurflenni cyn iddyn nhw deithio.

Ond mae Howard Stevens QC, sy’n cynrychioli Tui, wedi dweud bod y cwmni’n gwadu’r honiadau.

Mae gwrandawiad cynharach wedi clywed y bydd y cwest yn ystyried a oedd Llywodraeth y DU a chwmnïau teithio yn gwybod am y risg o ymosodiad posib yn y ganolfan wyliau.

Fe fydd y crwner hefyd yn ymchwilio i weld a oedd cyngor y Swyddfa Dramor i deithwyr i Tiwnisia yn “ddigonol.”

Fe fydd gwrandawiad arall yn cael ei gynnal ar 25 Mai ac mae disgwyl i’r cwest llawn gael ei gynnal ar 16 Ionawr 2017.