Enda Kenny ddim yn awyddus i ail-gynnal etholiadau yn Iwerddon
Mae disgwyl i drafodaethau hir gael eu cynnal yn Iwerddon yn y gobaith o ffurfio clymblaid newydd yn dilyn etholiadau siomedig i’r prif bleidiau.

Ond mae’r Taoiseach Enda Kenny wedi gwrthod ail-gynnal yr etholiadau.

Collodd ei blaid, Fine Gael oddeutu 30 o seddi, tra bod y Blaid Lafur wedi cadw llai na 10 o seddi.

Mae disgwyl clywed gweddill y canlyniadau ddydd Sul neu ddydd Llun, ond does dim disgwyl i Fine Gael na Fianna Fail sicrhau’r 50% angenrheidiol er mwyn gallu ffurfio llywodraeth.

Dywedodd Enda Kenny y byddai ei blaid yn parhau’n gryf yn y llywodraeth newydd er iddyn nhw golli’r mwyafrif mwyaf fu ganddyn nhw erioed.

Ychwanegodd mai ei gyfrifoldeb olaf fel Taoiseach fyddai sicrhau llywodraeth gref a sefydlog.

Fe fydd angen i Fine Gael a Fianna Fail roi eu gelyniaeth o’r neilltu er mwyn ffurfio clymblaid, ond fe ddywedodd Micheal Martin o Fianna Fail nad yw hynny’n debygol o ddigwydd.

Sinn Fein fydd y drydedd blaid fwyaf ac fe allen nhw fod yn allweddol i unrhyw ymdrechion i ffurfiol clymblaid.

Mae disgwyl i’r blaid gynyddu eu pleidleisiau a’u presenoldeb yn y Dail o ryw 50%.

Mae llywydd y blaid, Gerry Adams wedi galw ar y ddwy brif blaid i glymbleidio a “mynd i’r gwely gyda’i gilydd”.

Mae gan y prif bleidiau tan Fawrth 10 i ddod i gytundeb cyn y bydd angen gwneud penderfyniad.