Fietnam (macreda CCA 2.0)
Mae tri o Brydain wedi marw tra’n dringo rhaeadrau gyda thywysydd twristiaeth heb ei awdurdodi.

Cafwyd hyd i’r cyrff  yn rhaeadrau Datanla yn nhalaith Lam Dong, sy’n boblogaidd ymhlith twristiaid.

Dydy hi ddim yn glir eto sut bu i’r tri farw, ac mae eu tywysydd yn cael ei holi gan yr heddlu ar hyn o bryd.

Cadarnhaodd y Swyddfa Dramor fod tri pherson o Brydain wedi marw a dywedodd ei bod mewn cyswllt â’r awdurdodau yn Fietnam.

Yn ôl y cwmni sy’n rheoli’r rhaeadr, roedd y cwmni twristiaeth preifat oedd heb ei awdurdodi wedi trefnu’r daith, a hynny heb dalu i fynd i’r rhaeadr na ddefnyddio offer diogelwch y cwmni.

“Rydym yn rhoi cymorth i deuluoedd y tri dinesydd o Brydain yn dilyn eu marwolaethau yn agos i Da Lat, Fietnam.

“Mae ein meddyliau gyda’u teuluoedd a’u ffrindiau ar y cyfnod anodd hwn. Rydym mewn cyswllt agos â’r awdurdodau lleol yn Fietnam ar eu rhan.”

Mae’r heddlu yn credu gallai’r twristiaid fod wedi llithro, yn ôl adroddiadau newyddion lleol.