Bu Jeremy Corbyn yn herio David Cameron ynglŷn â iechyd a meddygon iau eto heddiw (llun: PA)
Byddai’r Cymro a sefydlodd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn “troi yn ei fedd” pe bai’n gwybod am agwedd y Prif Weinidog tuag at y system iechyd, yn ôl yr arweinydd Llafur Jeremy Corbyn.

Mewn dadl danbaid rhwng y ddau yn Nhŷ’r Cyffredin fe heriodd arweinydd yr wrthblaid sylwadau David Cameron y byddai Aneurin Bevan am weld Gwasanaeth Iechyd ‘saith diwrnod yr wythnos’.

Roedd y ddau yn ffraeo dros gytundebau meddygon iau yn Lloegr, ac fe gyhuddodd Jeremy Corbyn y Prif Weinidog o fod yn “fyrbwyll a chamarweiniol” gydag ystadegau o farwolaethau dros benwythnosau.

Mae Cameron ei hun wedi cyfeirio sawl gwaith at fethiannau honedig yng ngwasanaeth iechyd Cymru y mae Llafur yn ei redeg, fel cyfiawnhad dros record iechyd ei lywodraeth yntau yn San Steffan.

‘Dyn â gweledigaeth’                  

Er gwaethaf beirniadaeth ddiweddaraf Jeremy Corbyn mynnodd David Cameron fod y Gymdeithas Feddygol Brydeinig, sydd wedi trefnu cyfres o streiciau mewn protest i gynlluniau’r llywodraeth, yn euog o godi bwganod.

Wrth ymateb i sylwadau’r Prif Weinidog ar weledigaeth Aneurin Bevan i’r Gwasanaeth Iechyd, dywedodd Jeremy Corbyn y “byddai Nye Bevan yn troi yn ei fedd pe bai’n gallu clywed dy agwedd tuag at y Gwasanaeth Iechyd.”

“Roedd yn ddyn â gweledigaeth, a oedd am gael gwasanaeth iechyd er lles pawb,” ychwanegodd arweinydd y Blaid Lafur.