Bu farw’r newyddiadurwr hoci blaenllaw Graham Wilson yn 63 oed yn dilyn salwch byr.

Roedd yn ohebydd hoci’r Daily Express am fwy na 30 o flynyddoedd cyn ymddeol y llynedd.

Mewn teyrnged ar eu gwefan, dywedodd England Hockey fod Wilson “wedi gwneud cyfraniad anferth i adeiladu proffil hoci”.

Daw ei farwolaeth ychydig fisoedd yn unig wedi i’w fab 22 oed farw yn dilyn damwain tra’n chwarae hoci.

Bydd teyrnged i Wilson ac i nifer o newyddiadurwyr chwaraeon blaenllaw eraill fu farw yn ystod y flwyddyn, wrth i wobrau blynyddol Newyddiaduraeth Chwaraeon Prydain gael eu cynnal yn Llundain nos Lun.

Mae nifer o chwaraewyr hoci blaenllaw wedi talu teyrnged iddo ar wefannau cymdeithasol.