Mae dau fachgen yn eu harddegau wedi’u harestio yn dilyn galwad ffug i ganolfan hyfforddi.

Fe gafodd y ddau, 16 a 17 oed, eu dwyn i’r ddalfa gan yr heddlu yn dilyn galwad fygythiol i Nova Training yng nghanol tre’ Oldbury yn y West Midlands ar Ionawr 28 eleni. Mae’r ddau bellach wedi’u rhyddhau ar fechnïaeth tra bod ymchwiliadau’n parhau.

Mae cyfres o alwadau ffug ledled Lloegr yn ddiweddar, yn cynnwys rhai yn ardal Heddlu West Midlands, lle mae’r galwr yn dweud fod bom wedi’i gosod ar y safle, wedi arwain at gau ysgolion dros dro.

Y gosb fwya’ am wneud galwad ffug yn ymwneud â bom, ydi saith mlynedd o garchar.