Ni fydd y cyflwynydd teledu John Leslie yn cael ei gyhuddo o ymosod yn rhywiol.

Roedd Leslie yn wynebu cyhuddiadau o ymosod yn rhywiol ar ddynes 22 yng Nghaeredin y llynedd.

Ond dywedodd Leslie wrth bapur newydd y Sunday Mirror fod yr heddlu wedi rhoi gwybod iddo nad ydyn nhw’n bwriadu mynd â’r achos ymhellach.