Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Tim Farron wedi talu teyrnged i’r Arglwydd Avebury, sydd wedi marw’n 87 oed.

Roedd Eric Avebury yn Aelod Seneddol Orpington am wyth mlynedd wedi iddo gael ei ethol yn 1962.

Daeth yn Farwn Avebury yn 1971.

Fe fu’n dioddef o lewcemia.

Dywedodd Tim Farron: “Roedd yn Rhyddfrydwr go iawn a fydd yn cael ei gofio gymaint am ei ymroddiad di-flino i frwydro dros achosion Rhyddfrydol ag y bydd am ei fuddugoliaeth syfrdanol yn is-etholiad Orpington yn 1962.”

Ymhlith ei ymgyrchoedd roedd gostwng yr oedran pleidleisio, sefydlu Grŵp Seneddol ar gyfer Hawliau Dynol ac fe frwydrodd dros hawliau ffoaduriaid a cheiswyr lloches, gan dderbyn cyfrifoldeb am gannoedd o unigolion oedd yn ffoi rhag cael eu herlid.

Ychwanegodd Farron: “Roedd yn fraint bersonol i fi gael siarad ar achlysur hanner canmlwyddiant ei fuddugoliaeth yn yr is-etholiad yn y Clwb Rhyddfrydol Cenedlaethol.

“Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi colli ymgyrchydd gwych, ffrind gwych a phencampwr yr achos Rhyddfrydol.”