(llun: y weinyddiaeth gyfiawnder)
Dylid defnyddio cyn-filwyr i weithio fel athrawon mewn ‘ysgolion diogel’ i droseddwyr ifanc, yn ôl ymgynghorydd llywodraeth Prydain ar gyfiawnder ieuenctid.

Mewn adroddiad, dywed y byddai mwy o obaith o ddysgu pobl ifanc i gefnu ar droseddu petai mwy o bwyslais yn cael ei roi ar eu haddysgu pan maen nhw yn y ddalfa.

Mae’n argymell ysgolion diogel, a fyddai’n helpu plant i ddysgu Saesneg a Mathemateg ac yn darparu addysg alwedigaethol, i gymryd lle’r sefydliadau presennol ar gyfer carcharu troseddwyr ifanc.

Dywed yr ymgynghorydd, Charlie Taylor, y gallai’r lluoedd arfog chwarae rhan flaenllaw yn yr ysgolion hyn.

“Mae gan y bobl sy’n dod allan o’r Fyddin sgiliau arwain anhygoel a’r gallu i weithio gyda phobl,” meddai. “Maen nhw’n dda iawn gyda disgyblaeth ond gyda llawer mwy na hynny – gallai llawer o’r bechgyn fynd i’r lluoedd a gwneud yn dda iawn.”

Dangosodd yr adroddiad fod tua 40% sydd mewn sefydliadau troseddwyr ifanc heb fod yn yr ysgol ers yn 14 oed.

Nid yw plant mewn sefydliadau pobl ifanc ond yn derbyn 17 awr o addysg yr wythnos, o gymharu â 30 awr y dylent ei gael, ac mae dau draean ohonynt yn cyflawni trosedd newydd o fewn blwyddyn o gael eu rhyddhau.