(lun o wefan NSPCC)
Fe fydd llinell gymorth yn mynd yn fyw ddydd Llun i alluogi gweithwyr i dynnu sylw at unrhyw fethiannau gan eu sefydliad wrth amddiffyn plant.

Mae’r llinell gymorth wedi’i hanelu at staff mewn sectorau gwahanol sy’n ofni dwyn i sylw unrhyw bryderon am sut y mae eu sefydliad yn delio gyda achosion o gamdrin plant.

Fe fydd cynghorwyr yn cynnig cyngor dros y ffôn ynghylch y broses o godi’r mater a chynghori ynghylch diogelwch cyfreithiol petae unrhyw gamwahaniaethu yn y dyfodol.

Fe fydd y gwasanaeth newydd yn cael weithredu gan Gymdeithas er gwarchod plant, NSPCC ar ran y Swyddfa Gartref.

Wrth lansio’r gwasanaeth, dywedodd y Gweinidog Atal camdriniaeth i blant, Karen Bradley, “Fe fydd y llinell gymorth yn wasanaeth hanfodol yn ein brwydr i roi terfyn ar gamdriniaeth plant, ac ecsploitio rhywiol.”

“Mae rhai cyflogwyr yn mynd ati’n ddygn i atgyfnerthu’r broses.

“Ond mae mwy o waith i’w wneud i annog staff i ddwyn i sylw camarfer, heb beidio teimlo erledigaeth – yn enwedig mewn perthynas â phlant ble mae’r gost o fethiant yn uchel ofnadwy.”

Croesaowdd Prif Weithredwr yr NSPCC, Peter Wanless y linell gymorth newydd.”Os yw aelod o staff yn teimlo fod plentyn mewn peryg, neu wedi eu hanwybyddu gan y sefydliad, yna, ni ddylai fod dim byd i rwystro hwynt rhag siarad am y peth. “