Mae dyn a lofruddiodd ei wraig gyda gordd wedi ei garcharu am oes.

Fe glywodd Llys y Goron Bryste bod David Lancaster wedi waldio’i wraig Helen chwe gwaith gyda gordd, a hithau’n gorwedd yn ei gwely.

Wedyn aeth ati i’w mygu gyda chlustog yn ei chartref yn Tewkesbury, Swydd Gaerloyw.

Roedd David Lancaster wedi ffraeo gyda’i wraig ar ôl canfod ei bod wedi cael perthynas gyda dyn arall, a hynny pan dderbyniodd ddogfennau ysgariad ddiwrnod cyn y llofruddiaeth.

Bu iddo son wrth gymydog cyn y llofruddiaeth ei fod yn “teimlo‘n flin ac awydd llofruddio” ei wraig.

Ar ôl yr ymosodiad aeth David Lancaster â’r ordd nôl i’r sied a ffoi i’r traeth yn Burnham on Sea.

Yna fe ffoniodd yr heddlu a chyfaddef ei fod wedi llofruddio’i wraig.