Mae Jeremy Hunt wedi dweud y bydd yn bwrw ymlaen â chynlluniau i newid amodau gwaith meddygon iau yn Lloegr er gwaethaf rhagor o wrthwynebiad.

Mynnodd yr Ysgrifennydd Iechyd yn San Steffan bod doctoriaid ddim wedi bod yn hyblyg yn eu trafodaethau, ac y byddai’r newidiadau yn cael eu derbyn ymhen amser.

Ond mae Cymdeithas Feddygol Prydain (BMA) wedi dweud y byddan nhw’n bwrw ymlaen â’u brwydr, gan olygu posibilrwydd y bydd rhagor o streiciau.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi corddi’r dyfroedd wrth ddweud na fyddan nhw’n cyflwyno cytundebau newydd o’r fath ac felly y gallai meddygon iau ddisgwyl ‘mwy o groeso’ petawn nhw’n croesi’r ffin.

‘Pleidleisio â’u traed’

Ar hyn o bryd mae meddygon yn cael eu talu cyflog ychwanegol am weithio dros nos ac yn ystod y penwythnosau, ond yn ôl cynlluniau Jeremy Hunt fe fyddai’r tâl am weithio ar ddydd Sadwrn yr un peth â gweddill yr wythnos.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd y byddai cyflogau yn codi o 13.5% fodd bynnag, ac y byddai hynny’n golygu bod tri chwarter y meddygon yn cael cyflogau uwch ar y cyfan.

Byddai lleihad hefyd yn y nifer o ddyddiau hir a nosweithiau y byddai meddygon yn cael gweithio yn olynol, yn ogystal â lleihad o 91 i 72 yn y nifer o oriau gweithio mewn wythnos a ganiateir.

Mae’r BMA, fodd bynnag, eisiau gweld cyflogau uwch ar ddydd Sadwrn yn gyfnewid am leihad i’r codiad cyflog oedd yn cael ei gynnig.

“Mae’r ffordd mae’r llywodraeth wedi delio â’r broses yma o’r dechrau i’r diwedd wedi bod yn shambyls llwyr ac wedi estroneiddio cenhedlaeth o feddygon iau,” meddai cadeirydd pwyllgor meddygon iau y BMA, Dr Johann Malawana.

“Nhw yw doctoriaid a meddygon teulu’r dyfodol, ac mae risg real y gallai rhai bleidleisio â’u traed.”

‘Croeso cynnes’

Mae’r ffrae eisoes wedi arwain at bryderon y gallai meddygon iau yn Lloegr feddwl am chwilio am waith yng Nghymru neu’r Alban, neud hyd yn oed yn bellach i ffwrdd mewn gwledydd fel Awstralia.

“Does gennym ni ddim cynlluniau i gyflwyno cytundeb meddygon iau newydd,” meddai Gweinidog Iechyd Llywodraeth Cymru Mark Drakeford heddiw.

“Mae gan Gymru draddodiad cryf o weithio mewn partneriaeth â staff a’u cynrychiolwyr. Fe fydd Cymru’n parhau i gynnig trefniadau gwaith deniadol a phrofiad hyfforddiant positif, yn seiliedig ar drefniadau’r ddel newydd sydd yn bodoli.

“Fe fydd meddygon iau o unrhyw ran o Brydain sydd â diddordeb gweithio yng Nghymru yn dod o hyd i amodau gwaith teg a chroeso cynnes yma.”