Milly Dowler
Mae teulu’r ferch ysgol, Milly Dowler a gafodd ei chipio a’i lladd, wedi siarad am eu “gwewyr a’u poen” ar ôl i’w llofrudd roi manylion am ei droseddau am y tro cyntaf.

Mae Levi Bellfield wedi disgrifio beth  wnaeth i’r ferch ysgol, 13 oed, cyn ei llofruddio yn 2002.

Mewn datganiad, dywedodd y teulu eu bod nhw’n gobeithio y gall “enaid Milly, o’r diwedd, orffwys mewn hedd.”

Roedd Levi Bellfield yn fodlon siarad â swyddogion benywaidd Heddlu Surrey yn unig pan benderfynodd gyfaddef a rhoi manylion o’r ffordd y gwnaeth e dreisio, arteithio a lladd Milly.

Roedd Milly Dowler yn cerdded adref o’r ysgol yn Walton-on-Thames, Surrey, pan gafodd ei chipio.

Cafodd Bellfield ei garcharu am oes am gipio a lladd Milly Dowler ym mis Mehefin 2011. Roedd Bellfield eisoes yn y carchar am lofruddio Amelie Delagrange a Marsha McDonnell, a cheisio llofruddio Kate Sheedy, pan gafodd yr achos yn ei erbyn am lofruddio Milly Dowler ei gynnal.

Nid oedd erioed wedi cyfaddef ei lladd nes i ymchwiliad gael ei lansio i geisio darganfod a oedd unrhyw un arall yn gysylltiedig â’r digwyddiad ar ôl iddo son am y drosedd wrth un o’r carcharorion eraill.

Fis diwethaf dywedodd Heddlu Surrey eu bod wedi arestio dyn yn ei 40au ond cafodd ei ryddhau ar ôl 10 awr gan nad oedd unrhyw dystiolaeth yn ei erbyn.

Mae’r heddlu bellach yn ymchwilio i nifer o droseddau eraill yn sgil ei gyffesiad. Mae Bellfield eisoes yn cael ei amau o nifer o ymosodiadau eraill.