Fe fydd miloedd o feddygon iau ar draws Lloegr yn mynd ar streic heddiw ar ôl i drafodaethau munud olaf fethu a dod i gytundeb.

Dim ond gofal brys fydd yn cael ei ddarparu gan feddygon iau o 8yb yn ystod y streic 24 awr.

Dyma’r ail streic gan y Gymdeithas Feddygol Brydeinig (BMA) mewn anghydfod gyda’r Llywodraeth ynglŷn â chytundebau newydd, a fyddai’n golygu llai o dal i feddygon iau am weithio ar benwythnosau ac oriau anghymdeithasol.

Mae arolwg newydd a gynhaliwyd cyn y streic yn awgrymu y gallai naw o bob 10 meddyg iau ystyried ymddiswyddo os ydy’r cytundeb newydd yn cael ei orfodi arnyn nhw.

Roedd y streic gyntaf ym mis Ionawr wedi arwain at ganslo miloedd o lawdriniaethau ac apwyntiadau ar draws y Gwasanaeth Iechyd.