Roedd tri dyn sydd wedi’u cael yn euog o ladd bachgen 14 oed mewn mynwent, wedi bod yn tynnu hunluniau cyn yr ymosodiad.

Roedd George Thomson, 19, Brahnn Finley, 19, a Daniel Johnston, 20, wedi bod yn tynnu’r lluniau ohonyn nhw’u hunain oriau’n unig cyn iddyn nhw ddenu Jordan Watson i fynwent yng Nghaerliwelydd, Cumbria, lle cafodd ei drywanu i farwolaeth.

Fe gafodd y lluniau eu tynnu yn stafell wely George Thomson, a’r gred ydi ei fod yn obsesiynu am gariad 14 oed Jordan Watson. Fe gafodd ei garcharu am 27 mlynedd heddiw, am ladd Jordan Watson.

Fe gafodd Brahnn Finley hefyd ei ddedfrydu i oes o garchar, gyda’r gorchymyn y dylai dreulio beth bynnag 14 mlynedd dan glo. Ac fe gafwyd Daniel Johnston yn euog o ddynladdiad a’i ddedfrydu i dreulio 10 mlynedd dan glo.

George Thomson oedd yr un oedd wedi denu’r bachgen ysgol 4 troedfedd 11 modfedd i’r fynwent yn hwyr y nos ar Fehefin 15 y llynedd.