Mae gwraig 74 oed wedi’i chanfod yn farw yn ei char, wedi i’r cerbyd fod mewn gwrthdrawiad â char arall mewn gorsaf betrol yn ne-ddwyrain Lloegr.

Roedd y bensiynwraig gyda’i gwr mewn Renault Kangoo lliw arian pan fuon nhw mewn gwrthdrawiad gyda cherbyd arall yn y garej ar fin priffordd yr A27 rhwng Falmer a Lewes yn Nwyrain Sussex ddoe.

Mae Heddlu Sussex wedi cadarnhau mai dinasyddion Prydeinig oedd y ddau, er eu bod yn byw yn Ffrainc. Roedden nhw wedi dychwelyd i wledydd Prydain ddydd Sul er mwyn ymweld â pherthnasau.

Fe achoswyd difrod bychain i’r Renault Kangoo pan fu mewn gwrthdrawiad â chefn Toyota Aygo a oedd yn llonydd ar y pryd. Fe gafwyd y wraig yn farw yn y sedd nesa’ at y gyrrwr, ac mae ei gwr, 74, wedi ei gludo i’r Royal Sussex County Hospital yn Brighton yn diodde’ o fân anafiadau.

Mae marwolaeth y wraig yn cael ei thrin fel un heb eglurhad. Fe fydd prawf post mortem yn cael ei gynnal yr wythnos hon.