Fe fydd myfyriwr o Brifysgol Middlesex a gafodd ei arestio pan oedd, yn honedig, ar ei ffordd i Syria i ymuno â’r Wladwriaeth Islamaidd (IS) yn sefyll ei brawf yn llys yr Old Bailey.

Fe gafodd Cubeyda Jama, 19, ei arestio ym maes awyr Stansted ar Chwefror 5, ar awyren oedd ar ei ffordd i Bucharest, Romania. Yr honiad yn ei erbyn ydi ei fod yn cynllunio i deithio oddi yno dros dir i gyrraedd ffin Syria.

Mae Cubeyda Jama, sy’n ddinesydd y Ffindir o dras Somali ac yn byw yn Thornton Heath, de-ddwyrain Llundain,  wedi ymddangos gerbron Llys Ynadon Westminster heddiw, wedi’i gyhuddo o gynllwynio gweithredoedd terfysgol.

Mae Cubeyda Jama wedi pledio’n ddieuog i’r cyhuddiad, ac mae wedi’i gadw yn y ddalfa cyn y mae disgwyl iddo ymddangos yn yr Old Bailey ar Chwefror 19.