Mae Heddlu Llundain wedi dweud bod yr ymchwiliad i honiadau o droseddau rhyw yn erbyn yr Arglwydd Leon Brittan yn un “llwyr gyfiawn”.

Daw’r datganiad yn dilyn adolygiad o’r ymchwiliad i honiad o dreisio yn erbyn Brittan.

Roedd Heddlu Scotland Yard wedi cael eu beirniadu am y modd y cafodd yr ymchwiliad ei gynnal, ond daeth yr adolygiad i’r casgliad bod sail i dystiolaeth yr unigolyn oedd wedi dioddef yr ymosodiad honedig.

Ond dywedodd yr adolygiad y byddai achos llys yn fwy tebygol o arwain at gollfarn yn hytrach nag euogfarn.

Daeth Gwasanaeth Erlyn y Goron i’r casgliad yn 2013 nad oedd digon o dystiolaeth i ddwyn achos yn ei erbyn ar amheuaeth o dreisio dynes 19 oed yn 1967.

Serch hynny, cafodd yr ymchwiliad ei ail-ddechrau flwyddyn yn ddiweddarach, a chafodd Brittan ei gyfweld ym mis Mai 2014.

Ond bu farw’r Arglwydd Brittan, 75, y llynedd heb wybod na fyddai’n wynebu achos.

Cafodd y ddynes oedd wedi gwneud yr honiad wybod cyn cyfreithwyr Brittan, oedd yn golygu nad oedd modd iddyn nhw roi gwybod iddo yntau cyn ei farwolaeth.

Gwendidau

Daeth yr adolygiad i’r casgliad nad oedd cyfweliad gyda’r Arglwydd Brittan wedi cael ei recordio oherwydd bod nam ar y peiriant ar y pryd.

Mae disgwyl i Gomisiynydd Heddlu Llundain, Syr Bernard Hogan-Howe fynd gerbron pwyllgor o aelodau seneddol ar Chwefror 23.

Dydy Scotland Yard ddim wedi cadarnhau na gwadu y bydd y Comisiynydd yn cynnig ymddiheuriad i deulu Brittan.