Bws a gafodd ei ffrwydro ar 7/7 yn 2005
Roedd ofn a phryder ymhlith trigolion yn ninas Llundain fore Sul wrth i fws dau lawr ffrwydro ger pencadlys MI5.
Yn dilyn y ffrwydrad, fe gododd fflamau ryw 100 troedfedd i’r awyr dros Bont Lambeth.
Ond buan y daeth tystion i sylweddoli mai ar gyfer ffilm newydd Jackie Chan y cafodd y ffrwydrad ei drefnu, a bod y bont ar gau ar gyfer y ffilmio.
Roedd y digwyddiad yn adlais o ymosodiadau brawychol 7/7 yn 2005 pan gafodd 52 o bobol eu lladd, ac 13 ohonyn nhw ar fws deulawr yn Sgwar Tavistock.
Dywedodd yr awdures Sophie Kinsella ar Twitter: “Hei bobol ffilm, y tro nesaf i chi ffrwydro bws ar Bont Lambeth efallai y gallech chi ddweud wrthon ni’n gyntaf fel nad yw plant yn y parc yn cael ofn?”
Bydd yr olygfa’n ymddangos yn y ffilm ‘The Foreigner’, sydd hefyd yn serennu Pierce Brosnan.
Ond mae’n ymddangos bod rhai trigolion wedi derbyn rhybudd gan y criw ffilm.
Ar Twitter, fe ddywedodd y cynhyrchwyr: “Mae’r ffrwydrad o dan reolaeth ac yn cael ei weithredu gan ein tim effeithiau arbennig.
“Bydd pob gofal yn cael ei gymryd er mwyn sicrhau diogelwch pobol yn yr ardal.”