Mae dyn 39 oed
wedi cael ei drywanu i farwolaeth yn dilyn ymosodiad ar y stryd yn Bolton nos Sadwrn.
Mae’r heddlu’n trin y digwyddiad fel achos o lofruddiaeth, ac maen nhw wedi arestio dyn 29 oed.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am oddeutu 10 o’r gloch nos Sadwrn ond fe fu farw’r dyn yn y fan a’r lle.
Ceisiodd nifer o bobol helpu’r dyn cyn i’r giang oedd wedi ymosod arno ffoi.