Mae ditectifs sy’n gweithio ar achos o lofruddiaeth yn ninas Birmingham, yn ceisio dod o hyd i yrrwr tacsi a welwyd gerllaw.

Fe gafodd Akhtar Javeed, 56, ei saethu’n farw nos Fercher, wedi i ddynion yn gwisgo mygydau geisio dwyn o’i warws yn y ddinas. Mae’r ymadawedig wedi’i ddisgrifio fel “dyn teulu annwyl a chariadus”.

Mewn datganiad, mae Heddlu’r West Midlands wedi galw ar i dystion ddod yn eu blaenau i’w helpu i ddod o hyd i’r llofruddwyr.

Mae bwledi a gafodd eu canfod yn y warws wedi cael eu harchwilio gan arbenigwyr, ac maen nhw wedi cadarnhau na chafodd y gwn wnaeth eu tanio ei ddefnyddio mewn trosedd arall.