Fe fydd dyn a laddodd carcharor arall gyda set deledu yn cael ei ddedfrydu unwaith y bydd asesiadau pellach yn cael eu cynnal ar ei gyflwr meddyliol.

Cafodd Taras Nykolyn, 46, ei arestio ar ôl iddo roi cweir i Roger Maxwell, 51, yn Wimbledon Common yn Llundain gan dorri ei arddwrn a’i drwyn.

Roedd yr ymosodwr, oedd o’r Wcráin ac wedi dod i Brydain ar basbort ffug o Lithwania, dan glo ac wedi ei gyhuddo Roger Maxwell o fod yn frawychwr cyn ei guro.

Ond wrth aros am yr achos llys fe ymosododd Taras Nykolyn ar Wadid Barsoum, dyn 66 oed o’r Aifft oedd yn rhannu cell ag ef yng ngharchar Wandsworth.

Y gred yw ei fod wedi trywanu Walid Barsoum gyda set deledu a’i ladd oherwydd ei fod yn ei gadw’n effro gyda’r nos.

Problemau iechyd meddwl

Dywedodd Simon Denison QC ar ran yr erlyniad wrth Lys yr Old Bailey bod y ddau ymosodiad gan Taras Nykolyn yn “hynod o dreisgar” ac nad oedd cymhelliad amlwg i’r un ohonynt.

Fe glywodd y llys gan yr amddiffyniad Diane Ellis QC bod Taras Nykolyn wedi dioddef o episodau seicotig yn ystod y ddau ymosodiad a’i fod wedi cael ei asesu am anhwylder iechyd meddwl.

Mae’r gŵr o’r Wcráin eisoes wedi pledio’n euog i anaf corfforol difrifol a dynladdiad.

Cafodd ei ddedfryd ei ohirio heddiw wrth i’r llys aros am ragor o adroddiadau meddygol i gyflwr iechyd meddwl Taras Nykolyn.