David Cameron mewn uwch-gynhadledd Ewropeaidd (PA)
Mae’r gefnogaeth dros adael yr Undeb Ewropeaidd wedi cynyddu yn ôl un pôl piniwn sy’n dangos bod 45% o bobol yn bwriadu pleidleisio dros ‘Brexit’ yn y refferendwm.

Daw’r ffigurau diweddaraf yn dilyn trafodaethau rhwng Prif Weinidog Prydain ac arweinwyr Ewrop dros ddiwygiadau i’r undeb.

Mae arolwg YouGov hefyd yn dangos mai 36% o bobol erbyn hyn sydd am i Brydain aros yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd, gyda 19% heb benderfynu.

Ergyd i Cameron

Fe gafodd yr arolwg dros bapur The Times ei gynnal ddau ddiwrnod ar ôl cyhoeddi cytundeb arfaethedig y mae David Cameron yn honni sy’n datrys rhai o’r problemau.

Mae’n awgrymu bod nifer y pleidleiswyr sy’n cefnogi gadael yr undeb wedi codi dri phwynt ers yr wythnos gyn.

Fe fydd y ffigurau’n cael eu hystyried yn ergyd i David Cameron, sydd wedi bod yn ceisio sicrhau cytundeb a fydd yn bodloni gofynion y ddwy ochr.

Chwilio am gefnogaeth

Mae’r Prif Weinidog eisoes wedi cael ei feirniadu dros y cytundeb gan aelodau o’i blaid ei hun, ac mae’r gweinidog Cabinet, John Whittingdale wedi awgrymu y bydd yn ymgyrchu dros bleidlais i adael.

Fe fydd David Cameron yn ceisio sicrhau cefnogaeth gan arweinwyr Gwlad Pwyl a Denmarc cyn i’r undeb gynnal cyfarfod hollbwysig ar y cynigion diwygio ar 18 Chwefror ym Mrwsel.

Mae’n dilyn cyfres o drafodaethau gydag arweinwyr, gan gynnwys Llywydd y Cyngor Ewropeaidd, Donald Tusk, a Changhellor yr Almaen, Angela Merkel.