Ffoaduriaid o Syria
Mae arweinwyr rhyngwladol wedi addo dros £7 biliwn i fynd i’r afael ag argyfwng ffoaduriaid Syria, mae David Cameron wedi cyhoeddi.
Mewn cynhadledd a gafodd ei chynnal yn Llundain heddiw mae tua £4.1 biliwn wedi’i addo eleni gyda £3.4 biliwn arall yn cael ei addo erbyn 2020, meddai’r Prif Weinidog.
Bydd Prydain yn cyfrannu £510 miliwn yn ychwanegol, gan gymryd cyfanswm yr arian a adwyd gan y DU i £2.3 biliwn.
Mae gwledydd cyfagos sy’n ffinio Syria hefyd wedi cytuno i roi addysg i blant sydd wedi ffoi o’u cartrefi er mwyn sicrhau nad oes “cenhedlaeth goll”, meddai David Cameron.
Ychwanegodd David Cameron y byddai’r arian yn “achub bywydau, yn rhoi gobaith, ac yn rhoi cyfle am ddyfodol i bobl.”
Dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, Ban Ki-moon, bod y gynhadledd yn “llwyddiant mawr.”