Matt LeBlanc
Actor o gast y gyfres fyd-enwog, Friends, fydd yn ymuno â chriw y rhaglen Top Gear ar ei newydd wedd.

Bydd Matt LeBlanc, a oedd yn chwarae’r cymeriad ‘Joey’ yn  Friends, yn cyd-gyflwyno’r rhaglen â Chris Evans.

Fe wnaeth y cyflwynydd BBC Radio 2 gadarnhau’r newyddion drwy drydar llun o’i hun, Matt LeBlanc a’r Stig – y gyrrwr anhysbys ar y rhaglen.

Mae disgwyl i’r rhaglen newydd gael ei darlledu ym mis Mai.