Mae dyn yn ymladd am ei einioes ar ol cael ei drywanu mewn cwffas fawr ar y stryd yn ardal Manceinion.

Mae’n un o bump o bobol a gafodd eu cludo i’r ysbyty – tri wedi’u trywanu – wedi brwydr yn Bury toc wedi 10yh nos Wener. Yn ol adroddiadau, roedd rhai o’r ymladdwyr yn cario bwyeill.

Yn ol Heddlu Greater Manchester, “fe gafodd nifer fawr o arfau, yn cynnwys bwyell, cyllell a morthwyl eu cymryd oddi ar bobol yn safle’r ymadd yn Walmersley Road”.

Mae tri o ddynion 32, 24 a 22 oed, yn cael eu holi gan yr heddlu ar amheuaeth o achosi anhrefn treisgar. Y gred ydi fod yr ymladd wedi dechrau wedi ras geir rhwng cerbydau Volkswagen Bora, Seat Leon o liw arian, a char Hyundai gwyn.

Mae ditectifs yn chwilio am y Bora, rhif cofrestru YE53 GHO, ac am gar BMW 5 Series lliw tywyll, gyda’r rhif cofrestru MD06.