Mae dyn wedi ymddangos gerbron llys yng ngogledd Llundain ac wedi’i gyhuddo o ymosod yn rhywiol ar ddwy ferch 12 oed a chan gymryd arno ei fod yn blismon.

Mae Apedelrazek Badran, 32, wedi’i gyhuddo o ymosod ar y merched ar wahân i’w gilydd yn Edmonton ddydd Mercher diwetha’. Fe gafodd ei gyhuddo yn Llys Ynadon Highbury Corner o ddwy drosedd ryw, a dau achos arall o ddynwared plismon.

Mae o hefyd yn wynebu un cyhuddiad o ddal rhywun yn gaeth yn erbyn ei hewyllys gyda’r bwriad o gyflawni trosedd ryw, dau gyhuddiad o dorri gorchymyn trosedd ryw, yn ogystal â bod â’r cyffur canabis yn ei feddiant, a dwyn.

Mae Apedelrazek Badran, o Enfield, wedi’i gadw yn y ddalfa, ac mae wedi’i orchymyn i ymddangos gerbron y llys eto cyn bore Mawrth nesa’.