Fe allai’r BBC ofyn i bobol dros 75 oed i gyfrannu’n wirfoddol tuag at gostau eu trwydded deledu.

Mae’r gorfforaeth yn disgwyl costau o £700 miliwn y flwyddyn wrth ddarparu trwyddedau am ddim i’r henoed erbyn 2020, ar ôl dod i gytundeb â’r Llywodraeth yn dilyn adroddiad y Siarter.

Mae disgwyl i arbenigwyr annibynnol gynghori’r BBC ar sut allan nhw ddenu pobol dros 75 oed i gyfrannu’n wirfoddol.

Un cynnig yw defnyddio enwogion o’r un genhedlaeth fel rhan o’r ymgyrch, gan gynnwys y Fonesig Helen Mirren, yr Arglwydd Melvyn Bragg, Syr Terry Wogan a Syr Michael Parkinson.

Fe esboniodd llefarydd ar ran y BBC fod y Llywodraeth wedi cytuno y gallai’r BBC ofyn am daliadau gwirfoddol gan bobol dros 75 oed.

Cynigion eraill sy’n cael eu hystyried ynglŷn â’r drwydded ar hyn o bryd yw moderneiddio ffi i gynnwys tâl posibl am wasanaeth iPlayer, a chynyddu ffi’r drwydded yn unol â chwyddiant.

‘Dyfodol mewn perygl’

Fe fynegodd ysgrifennydd cyffredinol Confensiwn Cenedlaethol Pensiynwyr (NPC) ei phryder am y syniad hwn, gan ddweud y gallai’r enwogion ddylanwadu’n ormodol ar bensiynwyr cyffredin.

“Unwaith y cyhoeddodd y Canghellor ei fod yn trosglwyddo cyfrifoldeb am y drwydded deledu i’r BBC, roeddem yn gwybod y byddai’r dyfodol mewn perygl,” meddai Dot Gibson, ysgrifennydd cyffredinol NPC.

“Mae angen mynediad at wybodaeth ac adloniant ar bobol – yn enwedig pan mae dwy ran o bump o bobol hŷn (tua 3.9 miliwn) yn dweud mai’r teledu yw eu prif gwmni.

“Un o’r rhesymau pam mae gennym drwydded deledu am ddim yn y lle cyntaf yw bod y pensiwn gwladol yn parhau ar ei isaf mewn byd datblygedig.

“Mae angen i’r Llywodraeth adennill cyfrifoldeb am y drwydded deledu neu fel arall ry’n ni’n mynd i weld toriadau graddol iddo, cyn cael ei waredu’n llwyr yn y pendraw.”