Mae bosus y Loter Genedlaethol yn annog eu cwsmeriaid yng Nghaerwysg i fynd ati i “chwilio lawr ochr  soffas” am docynnau coll.

Yn ôl cofnodion Camelot, y cwmni sy’n gyfrifol am y Loteri, bu i rywun brynu tocyn ar gyfer Loteri Ionawr 9 yn ardal Caerwysg gyda’r chwe phêl gywir arno ac sydd werth £33,035,323.

“Mae’n swm anferthol o arian,” meddai llefarydd Camelot, “y jacpot Lotto mwyaf erioed…mi fedrech chi sicrhau dyfodol eich teulu – ac nid dim ond eich plant ond y cenedlaethau i ddod.”

180 diwrnod sydd gan yr enillydd i hawlio’r arian, felly’r dyddiad cau yw Gorffennaf 7.