Fe fydd dau ddyn yn mynd gerbron llys heddiw ar gyhuddiad o droseddau brawychol yn ymwneud a Syria.

Mae Mohammed Iqbal Hussain, 23, o Walsall wedi’i gyhuddo o bedwar achos o ariannu brawychiaeth o dan y Ddeddf Frawychiaeth 2000, meddai heddlu gorllewin Lloegr.

Mae Mohamed Suyaubur Rohaman, 32, hefyd o Walsall, wedi’i gyhuddo o un achos o ariannu brawychiaeth.