Justin Welby am arwain gweithgor (Llun PA)
Mae arweinwyr eglwysi Anglicanaidd wedi beirniadu cangen Americanaidd y Gymundeb yn ffurfiol am gefnogi priodasau hoyw.

Mewn cyfarfod yng Nghaergaint fe gytunodd archesgobion ar ddatganiad oedd yn dweud bod Eglwys Esgobol yr Unol Daleithiau wedi “cefnu ar y ffydd ac athrawiaeth” wrth gefnogi priodasau hoyw.

Ac mae’r eglwys yno wedi cael ei gwahardd am dair blynedd rhag cynrychioli’r Gymundeb a rhag pleidleisio mewn cyfarfodydd mewnol.

Condemnio

Ychwanegodd yr archesgobion eu bod yn parhau i lynu at yr “athrawiaeth draddodiadol” fod priodas rhwng dyn a dynes.

Ond maen nhw eisoes wedi cael eu condemnio gan ymgyrchwyr tros hawliau hoyw a lesbaidd am fethu hyd yn oed â mynegi cydymdeimlad neu gyfrifoldeb at y gymuned hoyw.

Ond y gred yw y bydd y penderfyniad yn atal rhai o eglwysi mwy ceidwadol Affrica rhag gadael y Gymundeb.

Anghytuno sylfaenol

Mae anghytuno dros safbwynt ar briodasau hoyw wedi hollti’r eglwysi Anglicanaidd dros y blynyddoedd diwethaf, gydag Eglwys Anglicanaidd Canada hefyd yn datgan o blaid priodasau hoyw.

Mae Archesgob Caergaint Justin Welby bellach wedi cael cyfrifoldeb i arwain tasglu i geisio “adfer y berthynas, ailadeiladu ffydd yn ein gilydd, iachau’r niwed sydd wedi’i wneud, cydnabod ein cyffredinedd ac edrych ar y gwahaniaethau sylweddol”.

Yn ôl y grŵp ceidwadol Anglicanaidd, Gafcon, doedd penderfyniadau’r arweinwyr ddim wedi mynd yn ddigon pell, ac fe gerddodd Archesgob Uganda allan o’r cyfarfod ar ôl methu â phasio cynnig a fyddai wedi gwahardd eglwysi’r UDA a Chanada o weithgareddau’r Gymundeb yn gyfan gwbl.