Llun PA
Mae’r awdurdodau wedi rhoi caniatâd i ddau fusnes ffonau mwya’ gwledydd Prydain uno mewn cytundeb busnes anferth.

Bellach, fe fydd y busnes ffonau gwifren a band llydan, BT, yn bwrw ymlaen i brynu busnes ffonau symudol EE am £12.5 biliwn.

Roedd cwmnïau eraill wedi cwyno y byddai’r ddêl yn caniatáu i BT greu monopoli o’r newydd ym maes teleffonau ond mae ymchwiliad gan yr awdurdod cystadleuaeth wedi gwrthod hynny.

‘Newyddion gwych’

Yn ôl cadeirydd yr ymchwiliad, John Wotton, doedd dim tystiolaeth y byddai’r cytundeb yn gwneud drwg i gystadleuwyr.

Ac yn ôl Prif Weithredwr BT, Gavin Patterson, roedd y cyhoeddiad gan yr awdurdod yn “newyddion gwych”.

Mae disgwyl yn awr y bydd yr uno wedi ei gwblhau erbyn diwedd mis Mawrth eleni.

Y cefndir

Roedd BT yn un o’r arweinwyr cynnar ym maes ffonau symudol trwy sefydlu Cellnet yn yr 1980au ac wedyn cwmni O2.

Fe gafodd hwnnw ei droi’n gwmni annibynnol ac wedyn ei werthu ym mlynyddoedd cynta’r mileniwm newydd wrth i BT chwilio am arian cyflym.

Yn ôl Gavin Patterson, fe fydd y fargen yn golygu bod modd cyfuno technoleg band llydan gydag un o’r cwmnïau mwyaf ym maes ffonau symudol.