Alan Rickman
Mae’r actor Alan Rickman wedi marw yn 69 oed.

Roedd wedi bod yn dioddef o ganser, meddai ei deulu.

Daeth i amlygrwydd yn 1988 yn chwarae Hans Gruber yn Die Hard gyda Bruce Willis, gan ymddangos mewn nifer o ffilmiau eraill gan gynnwys Truly, Madly Deeply a Love Actually.

Yn ddiweddarach, daeth i sylw nifer o ffans ifanc gyda’i rôl fel yr Athro Severus Snape yn ffilmiau Harry Potter.

‘Ni fyddwn yn gweld ei debyg eto’

Mewn teyrnged iddo dywedodd awdur Harry Potter J K Rowling: “Nid oes geiriau i fynegi fy sioc a fy nhristwch o glywed am farwolaeth Alan Rickman. Roedd yn actor ardderchog ac yn ddyn arbennig.”

Cafwyd teyrngedau hefyd gan aelodau o gast Harry Potter, Daniel Radcliffe ac Emma Watson.

Dywedodd Daniel Radcliffe bod Rickman “heb os, yn un o’r actorion gorau y byddaf fyth yn gweithio gyda nhw.”

Mewn teyrnged i’r actor, dywedodd Emma Thomson, a oedd wedi ymddangos gydag Alan Rickman yn Sense & Sensibilty a Love, Actually ei fod yn ddyn “prin ac unigryw ac ni fyddwn yn gweld ei debyg eto.”

Mae’n gadael gwraig, Rima.