Mae dau ddyn wedi cael eu harestio ar amheuaeth o droseddau brawychol yn ymwneud a Syria.

Cafodd y ddau ddyn, sy’n 26 oed ac yn dod o ardal Walsall, eu harestio bore ma, meddai heddlu Canolbarth Lloegr.

Dywed swyddogion bod y ddau wedi cael eu harestio fel rhan o ymgyrch sydd ar y gweill, ac yn gysylltiedig ag arestio dau ddyn 25 a 32 oed yn Walsall ddydd Mawrth ar amheuaeth o droseddau brawychol.

Mae’r ddau gafodd eu harestio yn gynharach yr wythnos hon yn parhau yn y ddalfa, meddai’r heddlu.

Mae swyddogion yn chwilio nifer o eiddo yn ardal Walsall sy’n gysylltiedig â’r rhai sydd wedi’u harestio.

Nid oedd unrhyw fygythiad uniongyrchol i ddiogelwch y cyhoedd, meddai’r heddlu.