David Bowie
Mae’r canwr pop David Bowie wedi marw yn 69 oed.

Roedd wedi bod yn dioddef o ganser ers 18 mis, yn ôl datganiad ar ei dudalen Facebook.

Bu farw ddydd Sul gyda’i deulu o’i gwmpas.

Meddai’r datganiad: “Bu farw David Bowie yn dawel heddiw gyda’i deulu o’i gwmpas ar ôl brwydr ddewr gyda chanser ers 18 mis.

“Tra bydd llawer ohonoch yn rhannu’r golled, rydym yn gofyn i chi barchu preifatrwydd y teulu yn eu cyfnod o alar.”

Roedd Bowie wedi rhyddhau ei albwm diweddaraf Blackstar dri diwrnod yn unig yn ôl ac mae ei gyn-wraig Angie Bowie ar hyn o bryd yn un o’r cystadleuwyr ar raglen Celebrity Big Brother.

Cafodd yrfa ddisglair a barodd dros chwe degawd, gan ganu ac actio a dylanwadu ar fyd ffasiwn. Mae ei ganeuon adnabyddus yn cynnyws Changes, Life on Mars?, Ashes To Ashes a Starman.

‘Athrylith’

Mae’r Prif Weinidog David Cameron wedi rhoi teyrnged iddo gan ddweud: “Nes i dyfu fyny yn gwrando ar yr athrylith pop David Bowie… Colled enfawr.”

Mewn teyrnged iddo ar Twitter dywedodd y comedïwr Ricky Gervais, a oedd wedi dwyn perswâd ar y canwr i ymddangos yn ei raglen Extras yn 2006: “Dwi newydd golli arwr. RIP David Bowie.”

Dywedodd Archesgob Caergaint Justin Welby wrth raglen Today ar BBC Radio 4 ei fod wedi bod yn ffan o David Bowie ers y 70au.

“Rwy’n hynod o drist i glywed am ei farwolaeth.

“Dw i’n cofio eistedd yn gwrando ar ei ganeuon yn ddiddiwedd, yn enwedig yn y 70au, a bob amser yn mwynhau’r hyn oedd o, beth roedd yn ei wneud a’r dylanwad a gafodd.

“Person eithriadol.”

Cefndir

Cafodd David Robert Jones ei eni ar 8 Ionawr, 1947 yn Brixton yn ne Llundain. Fe ffurfiodd nifer o fandiau gan alw ei hun yn Davy Jones ond fe newidiodd ei enw i David Bowie er mwyn osgoi dryswch gyda Davy Jones o’r grŵp Monkees.

Cafodd Space Oddity ei ryddhau ar 11 Gorffennaf, 1969 gan gyrraedd rhif un yn y siartiau yn y DU.

Daeth cyfres o albymau wedi hynny cyn i The Rise And Fall Of Ziggy Stardust And The Spiders From Mars yn 1972 ei wneud yn seren ryngwladol.

Daeth i frig y siartiau yn yr Unol Daleithiau am y tro cyntaf yn 1975 gyda Young Americans.

Fe ymddangosodd yn y ffilm The Man Who Fell To Earth cyn symud i Ferlin, lle ysgrifennodd rhai o’i ganeuon adnabyddus Sound And Vision a Boys Keep Swinging.

Yn yr 80au fe lwyddodd i gyfuno ei yrfa roc gydag ymddangosiadau yn y ffilmiau  Merry Christmas, Mr Lawrence ac Absolute Beginners.

Nid oedd ei grŵp roc Tin Machine yn 1988 yn boblogaidd gyda’r ffans ond fe ddychwelodd gyda’i albwm Black Tie White Noise yn 1993.

Fe briododd y fodel Iman yn yr un flwyddyn gan symud i Efrog Newydd ond roedd wedi parhau i fynd ar daith a recordio gan ryddhau Reality yn 2003.

Nid oedd wedi cynhyrchu unrhyw ganeuon tan y llynedd pan gafodd The Next Day ei ryddhau, ac yna ei albwm Blackstar ar ei ben-blwydd, 8 Ionawr eleni.

Cafodd Bowie ferch gyda’i wraig Iman, Alexandria Zahra Jones, a mab, Duncan Jones, o’i briodas gyntaf.