Mae pedoffeil wedi cael saith mlynedd o garchar am hudo geneth ysgol i fynd i westy i gael rhyw.

Fe dargedodd Mark Cope y ferch “ddistaw, swil a naïf” o ogledd ddwyrain Lloegr tra’r oedd y dihiryn yn byw yng Nghymru gyda’i bartner.

Ac fe barhaodd i hudo’r ferch dros y We pan symudodd i fyw at ei fam yn Birmingham.

Aeth i ogledd ddwyrain Lloegr i gyfarfod y ferch a chael rhyw gyda hi ddwywaith, ac fe gafodd ei ddal yn y gwely gyda’r ferch a’i arestio yn y fan a’r lle.

Yn Llys y Goron Teesside fe ddywedodd y Barnwr Simon Phillips bod Mark Cope, 26, yn “oeraidd a rhesymegol” wrth drefnu i gyfarfod y ferch a heb unrhyw “derfynau moesol cywir”.

Roedd y pedoffeil wedi bygwth y ferch tra’n sgwrsio ar Skype, gan ei pherswadio bod y ddau yn gariadon a’i bod hi’n peryglu eu perthynas drwy beidio ufuddhau i’w orchmynion.

Yn gynharach roedd Mark Cope wedi cyfaddef i ddau gyhuddiad o achosi neu hudo plentyn i gymryd rhan mewn gweithred rywiol, cyhuddiad o gipio plentyn a dau gyhuddiad o gael rhyw gyda phlentyn.