Mae ymchwiliad llofruddiaeth arall ar y gweill yn Lloegr, y tro hwn wedi i gorff dyn gael ei ganfod mewn fflat yn y West Midlands.

Fe ddaeth yr heddlu o hyd i’r dyn 59 mlwydd oed wedi iddyn nhw dorri i mewn i’w gartre’ yn Stourbridge nos Wener, Ionawr 1.

Roedd cymydog wedi ffonio’r awdurdodau toc wedi 7yh y noson honno.

Mae dyn 33 oed, sy’n byw yn yr un stryd a’r ymadawedig, wedi’i arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth ac mae’n cael ei gadw yn y ddalfa.