Mae ymchwiliad llofruddiaeth ar y gweill, wedi i gorff dyn gael ei ganfod mewn fflat mewn tre’ lan y môr yn ne Lloegr.

Fe ddaethpwyd o hyd i gorff dyn 25 oed, wedi i’r heddlu gael eu galw i ddelio ag ymosodiad difrifol mewn cyfeiriad yn Bournemouth tua 2.25yb. Mae Heddlu Dorset wedi cadarnhau fod y dyn wedi marw pan gyrhaeddon nhw.

Mae ail ddyn, 46 oed, hefyd o Bournemouth, wedi’i anafu’n ddifrifol, ac wedi’i gluro i’r ysbyty.

Mae dyn 45 oed o Poole wedi’i arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth ac o geisio llofruddio. Mae’n cynorthwyo’r heddlu gyda’u hymholiadau.