Mae pedwar o bobol wedi cael eu harestio, ac mae offer cerddorol wedi’i atafaelu, yn dilyn rêf anghyfreithlon.

Fe gynhaliodd heddlu gyrch ar warws yn Keynsham ger Bryste toc wedi hanner nos neithiwr, a hynny wedi iddyn nhw dderbyn galwadau gan aelodau o’r cyhoedd.

Pan gyrhaeddodd yr heddlu, roedd nifer o bobol yn y warws wag, ac roedd y rêf eisoes ar droed.

Fe gafodd pedwar unigolyn eu harestio ar amheuaeth o gynllwynio i achosi niwsans i’r cyhoedd.