Mae’r heddlu’n credu fod dyn ifanc a gafodd ei ladd yn ystod awr ola’ 2015, wedi’i dargedu’n fwriadol gan y grwp a ymosododd arno yn y stryd.

Mae ymchwiliad llofruddiaeth bellach ar y gweill wedi i gorff dyn yn ei 20au gael ei ganfod yn Sheffield toc cyn 11.30yh ar Nos Calan.

Fe gafodd yr heddlu eu galw i Staniforth Road, lle’r oedd dyn wedi diodde’ anafiadau difrifol i’w ben. Fe fu parafeddygon yn gweithio’n galed i geisio’i achub, ond bu farw’r dyn yn y fan a’r lle.