Mae Prydeiniwr wedi’i arestio gan yr heddlu, wedi iddo weiddi’n uchel ei fod yn cario bom mewn ciw ym maes awyr Schiphol yn Amsterdam.

Fe gafodd y llinell hir o bobol oedd yn ciwio yn Nherfynnell rhif 3 y maes awyr eu symud ar unwaith, ac fe gafodd y dyn 29 oed ei ddal gan yr heddlu.

Mae lluniau ar wefannau cymdeithasol yn dangos y dyn yn gorwedd ar y llawr, gyda swyddogion yr heddlu’n pwyntio eu gynnau reiffl ato.

Mae llefarydd ar ran y maes awyr wedi cadarnhau fod Prydeiniwr 29 oed wedi’i arestio tua 8 o’r gloch, fore heddiw, a bod yr ardal honno o’r maes awyr wedi cau am rhyw hanner awr.