Fe gafodd dyn a phlentyn eu lladd mewn damwain car yn Swydd Bedford ddoe.

Bu farw’r tad yn y fan a’r lle ar briffordd yr A421 ar gyrion Bedford am 11.10yh, ac fe gafodd bachgen ei gludo i’r ysbyty cyn marw’n ddiweddarach.

Roedd dynes hefyd yn teithio yn y car, ac fe gafodd hithau ei chludo i Ysbyty Addenbrooke yn ninas Caergrawnt, yn diodde’ o anafiadau difrifol.

Mae’r heddlu’n apelio am dystion i’r gwrthdrawiad.