Jeremy Corbyn
Mae’r corff sy’n rheoleiddio’r wasg wedi dweud fod adroddiad a gyhoeddwyd yn y Sun yn “gamarweiniol” wrth iddo honni y gallai’r Blaid Lafur fod wedi colli miliynau o gyllid cyhoeddus pe na fyddai Jeremy Corbyn yn ymuno â’r Cyfrin Gyngor.

Fe gyhoeddwyd yr erthygl ym mis Medi gan honni fod arweinydd y Blaid Lafur wedi derbyn aelodaeth o’r Cyfrin Gyngor “er mwyn cael gafael yn y £6.2 miliwn,” o arian.

Er hyn, mae Sefydliad Annibynnol  Safonau’r Wasg (IPSO) wedi cynnal  y gŵyn ynglŷn â chywirdeb yr erthygl gan ddweud ei bod yn “gamarweiniol i honni fod gafael Llafur ar y £6.2 miliwn yn dibynnu ar Jeremy Corbyn yn dod yn aelod o’r Cyfrin Gyngor ai peidio.”

Roedd yr erthygl yn honni y gallai “argyfwng cyfansoddiadol” fod wedi dechrau pe byddai’r arweinydd wedi gwrthod ymuno a bod peryg na fyddai’n derbyn yr arian.

Fe wnaeth Pwyllgor Cwynion IPSO fynnu fod y papur newydd yn cyhoeddi eu dyfarniad, gan ddweud nad oedd yr arian ac aelodaeth Corbyn “wedi’u cysylltu’n ffurfiol ac nad oedd yr erthygl  yn ei gwneud hi’n glir sut oedd y mwyafrif o’r cyllid wedi’i ddyrannu mewn gwirionedd.”