San Steffan
Mae Aelodau Seneddol wedi cymeradwyo cynlluniau dadleuol i ganiatáu ffracio o dan dir y Parciau Cenedlaethol yn dilyn pleidlais yn y Senedd heddiw.

Mae’r cynlluniau yn cynnwys ffracio tri chwarter milltir (1,200m) o dan y parciau cenedlaethol, safleoedd treftadaeth y byd ac ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol.

Fe gafwyd mwyafrif o 37 pleidlais, wrth i 298 o Aelodau Seneddol bleidleisio o’i blaid, a 261 yn pleidleisio yn ei erbyn.

Mae’r cynllun wedi bod yn un dadleuol, gyda rhai yn beirniadu’r Llywodraeth o gyflawni tro pedol wrth iddyn nhw gyflwyno’r cynlluniau wythnosau wedi etholiad mis Mai.