Mae dyn 56 oed o ganolbarth Lloegr wedi cael ei gyhuddo o lofruddio’i wraig.

Cafodd Paul Abbot ei arestio yn ei gartref am 4.30 brynhawn Gwener yn dilyn adroddiadau bod ffrae wedi bod rhyngddo fe a’i wraig.

Cafwyd hyd i Jacqueline Abbot ag anafiadau i’w phen, a bu farw’n ddiweddarach.

Bydd Abbot yn ymddangos gerbron ynadon yn Dudley ddydd Llun.