Y difrod i gartref yn Carlisle wedi'r llifogydd
Fe fydd oddeutu 5,000 o gartrefi a busnesau a gafodd eu heffeithio gan y llifogydd yn Cumbria a Swydd Gaerhirfryn yn cael gostyngiad yn y dreth gyngor a threthi busnes, cyhoeddodd Llywodraeth y DU heddiw.

Cafodd y gostyngiad ei gytuno yn dilyn cyfarfod o’r pwyllgor brys Cobra yn Whitehall, wrth i filoedd o bobl yng ngogledd Lloegr a’r Alban ddechrau’r gwaith o glirio’r difrod wedi Storm Desmond.

Clywodd gweinidogion bod y sefyllfa yn gwella yn dilyn glaw trwm a gwyntoedd cryfion dros y penwythnos  ond bod y gwasanaethau brys yn barod i ymateb oherwydd y posibilrwydd o ragor o dywydd gwlyb yn y dyddiau nesaf.