Mae astronot o Loegr am herio’i hun i fod y person cyntaf yn y byd i redeg marathon yn y gofod.

Bydd Tim Peaker o Chichester yn ne Lloegr yn rhedeg 26.2 o filltiroedd ar felin draed yn y gofod yr un pryd â Marathon Llundain ym mis Ebrill.

Mae disgwyl iddo gychwyn ei daith i’r gofod o safle yn Kazakhstan ar 15 Rhagfyr a bydd yn aros yno am 173 o ddiwrnodau tan 5 Mehefin y flwyddyn nesaf.

Pan fydd yn rhedeg y ‘marathon’, bydd yn cael ei glymu i’r felin draed gan harnais er mwyn peidio ag arnofio yn y gofod oherwydd yr ysgafnder sydd yno.

Bydd hefyd yn gwylio fideo o’r cwrs yn Llundain ar sgrin fawr.

“Mae Marathon Llundain yn ddigwyddiad byd-eang. Beth am ei wneud yn un arallfydol?” meddai.