Canolfan Siopa Dewi Sant (Llun Golwg360)
Roedd ffigurau gwerthu siopau’r stryd fawr wedi cwympo yn ystod mis Tachwedd – arwydd yn rhannol o fethiant sêls Dydd Gwener Du.

Fe syrthiodd gwerthiant 4.3% o gymharu gyda’r un cyfnod y llynedd, yn ôl y ffigurau diweddara’ gan yr ymgynghorwyr busnes BDO.

Dyma’r cwymp misol mwya’ mewn gwerthiant ers Tachwedd 2008.

Anwybyddu’r stryd fawr

Mae arbenigwyr wedi nodi fod siopwyr wedi anwybyddu’r stryd fawr yn ystod Dydd Gwener Du ac wedi gwario mwy nag £1.1 biliwn ar-lein, neu £763,000 bob munud.

Ond, yn ôl BDO, roedd gwerthiant ar-lein hefyd wedi arafu, gyda dim ond 15.1% o gynnydd o flwyddyn i flwyddyn.

Dywedodd Sophie Michael ar ran BDO fod y ffigurau yn dangos darlun trist o’r sefyllfa siopa Nadolig, ond mynnodd fod yna lygedyn o obaith i siopau.

Er bod ffigurau gwerthu’n is, meddai, roedd hi’n bosib bod siopau wedi gwarchod lefel eu helw’n well.

Meddai BDO

“Roedd Dydd Gwener Du y llynedd wedi dal y siopau yn ddiarwybod, ond roedd y siopau eleni yn llawer mwy trefnus gyda’r sêls yn para dros ddyddiau yn hytrach nag un diwrnod,” meddai Sophie Michael.

“Gyda Dydd Gwener Du o’r ffordd, fe fydd siopau yn gobeithio y bydd y galw yn cynyddu yn mis Rhagfyr gan ysgogi twf mewn siopa Nadolig i orffen y flwyddyn yn llwyddiannus”.