David Cameron
Mae’r Cabinet wedi cytuno ar fesur i gynnal cyrchoedd awyr yn erbyn IS yn Syria, meddai David Cameron wrth iddo annog Aelodau Seneddol “o bob plaid” i’w gefnogi.

Fe fydd ASau yn cynnal dadl yn y Senedd yfory ynglŷn â’r mesurau cyn cynnal pleidlais ar weithredu milwrol yn erbyn y Wladwriaeth Islamaidd (IS).

Dywedodd y Prif Weinidog bod y mesur yn rhan o “strategaeth ehangach” ar gyfer y rhanbarth.

Mae Jeremy Corbyn yn gwrthwynebu ehangu’r cyrchoedd awyr yn Irac i Syria ond bydd yn rhaid i David Cameron gael cefnogaeth ASau Llafur er mwyn i’r bleidlais lwyddo.

Mae nifer o ASau Llafur eisoes wedi dweud y byddan nhw’n pleidleisio o blaid y mesur, gan fynd yn groes  i’w harweinydd, ar ôl i Corbyn gael ei orfodi i roi pleidlais rydd i aelodau ei blaid ddoe. Mae Jeremy Corbyn wedi annog aelodau o’i gabinet sy’n bwriadu cefnogi’r Llywodraeth i “ail-ystyried” gan honni y bydd y cyrchoedd awyr yn arwain at fomio pobl yn eu cartrefi.

Fe rybuddiodd bod Prydain yn camu “i sefyllfa beryglus iawn.”

Os yw’r bleidlais yn llwyddo ddydd Mercher, fe allai cyrchoedd awyr ddechrau yn Syria o fewn dyddiau gan fod awyrennau milwrol yr Awyrlu eisoes yn cymryd rhan mewn ymosodiadau yn erbyn safleoedd IS yn Irac.

Mae Llafur wedi beirniadu David Cameron am wrthod caniatáu i’r ddadl yn Nhŷ’r Cyffredin gael ei chynnal dros ddau ddiwrnod, ond dywedodd bod dros 10 awr wedi’i ganiatáu ar gyfer y ddadl yfory.