David Cameron
Mae awyrennau rhyfel yr Awyrlu yn paratoi i gynnal cyrchoedd awyr yn Syria ar ôl i David Cameron gyhoeddi ei fod yn barod i geisio cael cefnogaeth y Senedd i gynnal ymosodiadau ar gadarnleoedd y Wladwriaeth Islamaidd (IS).

Deellir y gallai’r cyrchoedd cyntaf gael eu cynnal erbyn diwedd yr wythnos os yw’r Senedd yn pleidleisio ddydd Mercher o blaid ehangu’r cyrchoedd yn Irac i Syria.

Daeth penderfyniad y Prif Weinidog i geisio cefnogaeth Tŷ’r Cyffredin ar ôl i Jeremy Corbyn gael ei orfodi i roi pleidlais rydd i Aelodau Seneddol Llafur yn dilyn cyfarfod stormus gyda’i gabinet.

Dywedodd David Cameron bod yna “gefnogaeth gynyddol” yn y Senedd i ymyrryd yn erbyn IS yn Syria.

“Yn fy marn i, dyma’r peth iawn i’w wneud i gadw’n gwlad yn ddiogel.”

Fe fydd y Prif Weinidog yn ceisio cael cefnogaeth ffurfiol ar gyfer ei strategaeth yn ystod cyfarfod o’r Cabinet yn Downing Street heddiw.

Mae David Cameron wedi gwrthod cais gan Jeremy Corbyn i gynnal dadl deuddydd yn y Senedd – a fyddai wedi golygu gohirio’r bleidlais tan wythnos nesaf – ond dywedodd y byddai’n caniatáu amser ychwanegol ar gyfer y ddadl yfory.

Ni fydd sesiwn Gwestiynau’r Prif Weinidog yn cael ei gynnal yfory.